Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 11 Chwefror 2016

Amser: 09.05 - 12.53
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3553


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Darren Millar AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Jocelyn Davies AC

Mike Hedges AC

Julie Morgan AC

Jenny Rathbone AC

Tystion:

James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Cymru

Chris Cain, Northpoint Aviation

Yr Athro Stuart Cole, Prifysgol De Cymru

Andrew Miller, Glasgow Prestwick Airport

John Nicholls, Transport Scotland

Staff y Pwyllgor:

Fay Buckle (Clerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol)

Huw Vaughan Thomas (Archwilydd Cyffredinol Cymru)

Matthew Mortlock (Swyddfa Archwilio Cymru)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Trawsgrifiad o’r cyfarfod.

</AI1>

<AI2>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sandy Mewies ac Aled Roberts. Nid oedd neb yn dirprwyo ar eu rhan.

</AI2>

<AI3>

2       Papurau i’w nodi

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

</AI3>

<AI4>

3       Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn dystiolaeth 3

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i Lywodraeth Cymru yn caffael a pherchnogi maes awyr Caerdydd.

3.2 Cytunodd James Price i anfon y wybodaeth ganlynol at y Pwyllgor:

·         Rhestr o'r Cwmnïau Angori yng Nghymru ynghyd â'r meini prawf er mwyn bod yn Gwmni Angor;

·         Nodyn yn cynnwys ffigurau teithwyr a nifer yr hediadau dros y 25 mlynedd diwethaf;

·         Cynllun a rhestr o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gaffael;

·         Eglurhad o'r brys ynghylch pam bod rhaid cwblhau'r pryniant mewn amser byr a pham y defnyddiwyd gweithdrefn S128 yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006;

·         Manylion llawn o'r gwahanol brisiadau a wnaed cyn y caffaeliad;

·         Cadarnhad ynghylch a gynhaliwyd y gwerth tir gwreiddiol ar y safle fel maes awyr neu Werth Tir Gweddilliol safle'r maes awyr cyn adeg y pryniant;

·         A yw'r cyfrifiadau ar y Gwerth Tir Gweddilliol ar gael; a

Nodyn ar ba ddull prisio a ddefnyddiwyd i roi gwerth ar yr asedau yng nghyfrifon blynyddol Holdco.

</AI4>

<AI5>

4       Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn dystiolaeth 4

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Chris Cain, Cyfarwyddwr a Phennaeth Ymchwil, Northpoint Aviation a'r Athro Stuart Cole CBE, Athro Emeritws Economeg a Pholisi Trafnidiaeth, Prifysgol De Cymru, fel rhan o'r ymchwiliad i Lywodraeth Cymru yn caffael a pherchnogi maes awyr Caerdydd.

</AI5>

<AI6>

5       Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn dystiolaeth 5

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan John Nicholls, Cyfarwyddwr, Teithiau Awyrennau a Llongau, Camlesi a Chludo Nwyddau Transport Scotland ac Andrew Miller, Cadeirydd Maes Awyr Glasgow Prestwick fel rhan o'r ymchwiliad i Lywodraeth Cymru yn caffael a pherchnogi maes awyr Caerdydd.

</AI6>

<AI7>

6       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI7>

<AI8>

7       Maes Awyr Caerdydd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>